Walt Disney
Cynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilmiau o'r Unol Daleithiau oedd Walter Elias Disney (5 Rhagfyr 1901 - 15 Rhagfyr 1966).Mae'n adnabyddus fel un o'r ffigurau mwyaf dylanwadol a dyfeisgar ym maes adloniant yn ystod yr 20g. Fel cyd-sylfaenydd (gyda'i frawd Roy O. Disney) y cwmni Walt Disney Productions, daeth Disney yn un o'r cynhyrchwyr ffilmiau enwocaf yn y byd. Mae gan y gorfforaeth a sefydlwyd ganddo, sydd bellach yn cael ei hadnabod fel 'The Walt Disney Company', drosiant blynyddol o oddeutu $35 biliwn.
Gwnaeth Disney enw iddo'i hun hefyd fel un o ddatblygwyr mwyaf dyfeisgar y cyfrwng animeiddio ac fel cynllunydd parciau thema. Creodd Disney a'i staff rai o gymeriadau chwedlonol enwoca'r byd, gan gynnwys Mickey Mouse. Ei enw ef sydd ar barciau Disneyland a Walt Disney World Resort yn yr Unol Daleithiau, Japan, Ffrainc a Tsieina. Hoff gymeriad Disney o'r ffilmiau oedd Goofy. Bu farw Disney o gancr yr ysgyfaint ar 15 Rhagfyr 1966, rhai blynyddoedd yn unig cyn i Walt Disney World agor yn Lake Buena Vista, Fflorida. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12Rhif Galw: B 2334Llyfr
-
13Rhif Galw: B 0642Llyfr
-
14Rhif Galw: B 0322Llyfr
-
15Cyhoeddwyd yn [aus] Micky Maus (1994)Awduron Eraill: “...Disney, Walt...”
Rhif Galw: B 1574Erthygl -
16