Vincent van Gogh

bawd|chwith|200px|de|Mae ei gyfres o luniau o flodau'r haul ymysg ei waith enwocaf

Arlunydd o'r Iseldiroedd oedd Vincent Willem van Gogh (30 Mawrth 185329 Gorffennaf 1890) (Ynganiad: ). Roedd yn un o'r Ôl-argraffiadwyr ''(Post Impressionists)'', ac mae'n un o'r artistiaid enwocaf erioed.

Fe'i ganwyd yn Zundert. Yn ddyn ifanc, bu'n fasnachwr celf, yn athro, ac yna'n bregethwr – ond ni fu'n llwyddiannus iawn yn yr un o'r meysydd hyn.

Ym 1880 y cychwynnodd ar ei yrfa fel arlunydd, ag yntau'n 27 oed. Un o'r pethau a'i symbylodd i ddechrau arlunio oedd anogaeth ei frawd Theo, a oedd yn werthwr gwaith celf llwyddiannus ym Mharis ar y pryd. Theo oedd un o'r ychydig rai a gredai yn ei athrylith, a bu'n anfon deunyddiau peintio ac arian at ei frawd mawr yn fisol o'r cyfnod hwnnw ymlaen. Yn ystod ei fywyd ysgrifennodd Vincent lawer o lythyrau at Theo, a chadwodd Theo bob un ohonynt; cawsant eu cyhoeddi ym 1914.

Bu farw yn Auvers-sur-Oise. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3 ar gyfer chwilio 'Gogh, Vincent van', amser ymholiad: 0.05e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Rhif Galw: G VII 1244
    Llyfr
  2. 2
    Rhif Galw: G VII 1223
    Llyfr
  3. 3
    Cyhoeddwyd 1982
    Awduron Eraill: “...Gogh, Vincent van...”
    Rhif Galw: G VII 1243
    Llyfr