Louisa May Alcott

| dateformat = dmy}}

Awdur Americanaidd oedd Louisa May Alcott (29 Tachwedd 18326 Mawrth 1888). Mae hi'n fwyaf adnabyddus fel awdur y nofel ''Little Women'' (1868), a'i dilyniannau ''Little Men'' (1871) a ''Jo's Boys'' (1886). Cafodd ei magu yn Lloegr Newydd gan ei rhieni Abigail and Amos Bronson Alcott, dilynwyr y mudiad trosgynoliaeth, a daeth i gysylltiad agos â llawer o ddeallusion blaenllaw'r cyfnod, fel Ralph Waldo Emerson, Henry David Thoreau a Henry Wadsworth Longfellow.

Ceisiodd ei thad redeg ysgol ar egwyddorion arloesol, ond ni chafodd ei ymdrechion fawr o lwyddiant; o ganlyniad roedd yn dioddef o anawsterau ariannol, felly bu'n rhaid i Louisa May weithio i helpu i gefnogi’r teulu o oedran ifanc, gan ddechrau gyrfa fel awdur. Cafodd lwyddiant beirniadol am ei hysgrifennu yn y 1860au. Yn gynnar yn ei gyrfa, defnyddiodd y ffugenw "A. M. Barnard" i ysgrifennu nofelau cyffrous ar gyfer pobl ifanc.

Mae ei nofel ''Little Women'' wedi'i lleoli yng nghartref teulu Alcott, Orchard House, yn Concord, Massachusetts, ac mae wedi'i seilio'n fras ar brofiadau ei phlentyndod gyda'i thair chwaer, Abigail, Elizabeth ac Anna. Cafodd y nofel dderbyniad brwd ar y pryd ac mae wedi parhau i fod yn nofel boblogaidd i blant hyd at heddiw. Mae wedi'i addasu i ffilm sawl gwaith.

Roedd Louisa May Alcott yn ffeministaidd ac ymgyrchodd i ddileu caethwasiaeth. Arhosodd yn ddibriod trwy gydol ei hoes. Bu farw o strôc, ddeuddydd ar ôl i'w thad farw, yn Boston, Massachusetts, ar 6 Mawrth 1888. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Alcott, Louisa May', amser ymholiad: 0.64e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Alcott, Louisa May
    Cyhoeddwyd 1974
    Rhif Galw: B 0975
    Llyfr
  2. 2
    gan Alcott, Louisa May
    Cyhoeddwyd 1973
    Rhif Galw: B 0962
    Llyfr
  3. 3
    gan Alcott, Louisa May
    Cyhoeddwyd 1985
    Rhif Galw: B 0765
    Llyfr
  4. 4
    gan Alcott, Louisa May
    Cyhoeddwyd 1947
    Rhif Galw: B 0217
    Llyfr